Adolygiad: Georgie’s Diner, Pîl, Penybont ar Ogwr

image

Y fwydlen

image

Brecwast llysieuol

image

Tu fas y 'diner' ar bwys cylchfan Pîl, A48.

Dwi wedi bod yn darllen llyfr diweddaraf Chris Needs ac mae’n cyfeirio at Georgie’s Diner fel un o’i hoff lefydd i fwyta.

Gyda disgwyliadau uchel, felly, fe nes i fynd yno amser cinio heddi.

Wrth gyrraedd fe’ch croesawir gan arwydd sgôr hylendid pump seren a glendid ydy un o’r pethau nath fy nharo yn bendant.

Lleolir y bwyty ar ochr yr A48 ac yn amlwg yn boblogaidd gyda gyrrwyr/gweithwyr. Er fod y fwydlen yn eitha eang, fe bendefynais ddewis y peth amlwg h.y. brecwast-trwy’r-dydd (llysieuol).

Ro’n i’n hapus iawn i weld tatws o ryw fath (rwy’n casau brecwast heb datws) – yn yr achos hyn, tatws wedi’u ffrio yn berffaith. Roedd dim llai na 3 math o fara gyda brecwast – wedi’i ffrio, tôst, a bara menyn – er dim ond y ddau gyntaf ges i.

Mae’r staff yn gyfeillgar a’r bwyd gwerth yr arian. Llawer gwell i deithwyr na thalu llawer mwy mewn rhywle di-nod heb y cymeriad sydd ar gael yn Georgie’s.

Mwy o wybodaeth ar wefan Georgie’s.

Advertisements

Ynghylch Richard Nosworthy

Gic, Cenedlaetholwr, Sosialydd
Cafod y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized a'i dagio yn . Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s