Ffoto bob dydd – fy mhrofiad hyd yn hyn

Glaw – y peth mwyaf amlwg a hyd yn oed thema fy mlog arall Ffoto Bob Dydd.

Motobeics yn hedfan dros y Bae

Motobeics yn hedfan dros y Bae

Mae hi bron yn ddau fis ers i fi ddechrau’r prosiect yma, a ysbrydolwyd gan sawl person ar y we sydd wedi gwneud rhywbeth tebyg, ond gyda diolch arbennig i bobl fel Angharad Dalton (sy’n gwneud prosiect tebyg) a wnaeth fy annog i roi dro arni.

Wrth edrych yn ôl, rwy’n falch bod gyda fi dyddiadur gweledol o gyfnod yn fy mywyd.

Teimlaf hefyd y byddaf yn ei werthfawrogi’n fwy yn y blynyddoedd i ddod, pan nad yw’r pethau ‘bob dydd’ – cinio, y taith dyddiol i’r gwaith, y cath drws nesaf – mor gyfarwydd.

Y cath o ddwrs nesaf.

Y cath o ddwrs nesaf.

O safbwynt ffotograffiaeth, mae hi wastad yn dda i gael ‘rheswm’ i dynnu llun. Yn y gorffennol mae Ffotomarathon Caerdydd wedi darparu’r ysbrydoliaeth a’r cyfle yma, er dim ond unwaith y flwyddyn y cynhelir y dygwyddiad hwnnw.

Mae’r golau’n ddiddorol ddechrau’r flwyddyn. Mae’r haul yn isel a’r cysgodion yn hir.

Rwy’n licio defnyddio fy ffôn i dynnu’r lluniau.

Hefyd dwi’n licio’r ffaith nad oes rhaid i bob llun fod yn gampwaith. Mae’n ddigon i fod yn gofnod o gyfnod yn fy mywyd sy’n cadw’r patrymau dyddiol.

Ie, rydw i wedi methu – cwpl o weithiau. Nes i anafu fy mraich, ac achodd hynny i fi golli diwrnod. Unwaith anghofiais i heb esgus o gwbl.

Haul gaeafol trwy ffenest y swyddfa.

Haul gaeafol trwy ffenest y swyddfa.

Ond fe wna i ddal ati.

Erbyn diwedd y flwyddyn bydd gyda fi well dyddiadur nac unrhywbeth rydw i wedi ysgrifennu ar bapur.

Advertisements

Ynghylch Richard Nosworthy

Gic, Cenedlaetholwr, Sosialydd
Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s