Braderie de Lille 2013

Pwy a wyr beth ffeindiwch chi...

Pwy a wyr beth ffeindiwch chi…

Jam, set o gowbois, hen ddyn gyda choes artifisial mewn troli. Torfeydd o bobl yn prynu, gwerthu neu yfed cwrw yn yr heulwen.

Braderie de Lilles yw hwn – digwyddiad blynyddol yn ninas Lilles yn ardal Ffladrys, gogledd Ffrainc sydd bellach dim ond rhyw 5 awr o Gaerdydd ar y trên diolch i’r llinell cyflym Eurostar.

IMG_20130901_180550IMG_20130901_180345IMG_20130901_180219IMG_20130901_180153IMG_20130901_180033IMG_20130901_175803
IMG_20130901_175723IMG_20130901_175617IMG_20130901_175300IMG_20130901_164407IMG_20130901_164321IMG_20130901_164155
IMG_20130831_170949IMG_20130831_170649IMG_20130831_160114IMG_20130831_160048IMG_20130831_154925IMG_20130831_152603
IMG_20130831_151721IMG_20130831_144152IMG_20130831_125404IMG_20130831_145159

Braderie de Lille 2013, a set on Flickr.

Mae’r wraig a finnau’n troi’n Francophiles go iawn y dyddiau yma felly ar ôl gwyliau yn Ffrainc ym mis Mehefin – a dechrau hiraethu ar yr wlad – roedd y Braderie i’w gweld yn gyfle berffaith i fynd yn ôl am daith bach.

Ar ben hynny dwi wastad wedi joio fleamarkets – mae rhywbeth am dreulio oriau’n mynd trwy hen bethau pobl eraill sy’n ymlaciedig ac sy’n cynnig profiad siopa heb gymaint o euogrwydd o safbwynt amgylcheddol ac ariannol.

Ond un peth oedd ar fy meddwl wrth adael gorsaf trên rhyngwladol y ddinas, cerdded heibio canolfan siopa enfawr o’r 90au Euralille a chyrraedd y Braderie, sy’n ymestyn ar hyd pob stryd yn y canol.

Moules frites oedd hwnnw – bwyd traddodiadol yr ŵyl – ac elfen o’r daith a amlinellodd y gwahaniaethau yn niwylliant yr ardal hon a rhannau eraill o Ffrainc. Nid Ffrainc gentile y Dordogne yw hon – ond ardal y gogledd lle mae’r bobl yn yfed cwrw a siarad yr iaith Picard (gwyliwch y ffilm gomedi ardderchog Bienvenue Chez Les Ch’tis os hoffet ti wybod mwy).

Un wers a ddysgais i oedd i gadw draw o’r stondinau canolog – oedd yn tueddu cynnig mwy o’r eitemau newydd rhad, megis watsys, dillad a theganau. Ymhellach i ffwrdd o’r canol roedd mwy o’r stondinau fyddech chi’n disgwyl – hynny yw, pobl yn gwerthu cynnwys yr atic.

Ar werth

Ar werth

Finnau, fe wnes i brynu dim ond dau fwg retro a cardiau. I fod yn onest, efallai roedd hi’n lwcus i ni deithio ar y trên yn hytrach na ddod a fan a’i llenwi gyda hen dodrefn!

Os wyt ti’n ffansio blas bach o Ffrainc, fe allech chi wneud yn waeth na’r Braderie, sy dim ond tafliad carreg o Gymru y dyddiau hyn.

Mwy o wybodaeth am y Braderie fan hyn.

Advertisements

Ynghylch Richard Nosworthy

Gic, Cenedlaetholwr, Sosialydd
Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s