Pam dwi’n troi yn ol at y Filofax yn yr oes electronig

Filofax3

Mae ‘da fi cyfaddefiad. Dwi newydd ymuno a cylt – cylt y Ffeiloffaith neu Filofax.

Ie, mae’r ffolder lledr du wedi cymryd lle fy nghalendr electronig ac rwy’n dwli arno fe.

Serch twf calendrau electronig a’r defnydd o ffonau clyfar, tabledi ac ati, mae’n debyg nid fi yn unig sy’n ffan ohonynt y dyddiau yma. Dros y we mae blogiau a sianeli Youtube sy’n rhannu syniadau creadigol.

Felly pam defnyddio rhywbeth mor hen ffasiwn pan mae cymaint o opsiynau ar-lein er mwyn cadw eich cysylltiadau, calendr a nodiadau dan rheolaeth?

Dechreuodd hyn tua mis yn ol pan ffeindiais i’r Ffeiloffaith yn casglu llwch. Tan yn ddiweddar roeddwn i’n ei gadw er mwyn cadw nodiadau o’r cyfnod pan o’n i’n gweithio fel newyddiadurwr – ‘rhag ofn bod rhywbeth defnyddiol ynddo fe’.

Ers sbel dwi wedi bod yn defnyddio Google Calendar (ar y we ac ar Android) a Chysylltiadau Google, yn ogystal a chalendr Outlook yn y gwaith, ac Evernote a llyfrau nodiadau ar gyfer, wel, nodiadau.

Filofax1

Ond, gyda’r calendr yn enwedig, ro’n i moyn opsiwn arall. Y gwir ydy, nid yr opsiwn electronig yw’r gorau bob tro. Mae’n cymaint rhywddach a chyflymach i sgwennu nodyn neu edrych dros ddyddiadur ar bapur felly penderfynais i roi tro ar yr hen ffeiloffaith.

Hyd yn hyn, mae’n gweithio’n dda. Sai’n siwr os byddai’n rhoi cysylltiadau ynddo fe eto ond mae cadw trefn ar restrau ‘to-do’ a’r dyddiadur yn bleser. Mae’n gyfleus i gael y dyddiadur ar agor tra bo chi’n mynd trwy ebost/negeseuon testun/gwefannau ar y ffon/tabled ar yr un pryd. Hefyd mae’n hyblyg i’ch anghenion, er enghraifft dwi wedi creu gwahanol categoriau ar gyfer nodiadau personol, gwaith ac ati.

Mewn ffordd eironig efallai taw Filofax yw’r teclyn gorau i drefnu eich bywyd yn ein oes electronig?

Filofax2

Ar ben hynny, dwi wedi darganfod y gymuned enfawr rhyngwladol o Ffeiloffeithwyr sy’n helpu eu gilydd, rhannu tips, creu templedi i’w printio ac ati. Anhygoel. Mae’n debyg taw Philofaxy yw’r lle i ddechrau ac sy’n rhyw fath o ganolbwynt ar gyfer popeth Filofax.

Rho wybod i fi yn y sylwadau os wyt ti neu rhywun ti’n nabod sy’n defnyddio Filofax neu organiser papur tebyg – dwi ddim yn ymwybodol o Gymry yn y categori yma ond mae’n rhaid bod nhw’n bodoli!

PS – os wyt ti’n ffansio Filofax dy hun ac yn byw yng Nghaerdydd – mae’r siop ardderchog Pen and Paper yn eu stocio nhw.

Advertisements

Ynghylch Richard Nosworthy

Gic, Cenedlaetholwr, Sosialydd
Cafod y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized a'i dagio yn . Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Pam dwi’n troi yn ol at y Filofax yn yr oes electronig

  1. Dywedodd Carl Morris :

    Mae’r FiloFax yn dechnoleg gyfoes yn sicr. Mae angen i bob person ffeindio beth bynnag sy’n gweithio yn ei sefyllfa.

    >Y gwir ydy, nid yr opsiwn electronig yw’r gorau bob tro.

    Dw i’n hoff iawn o eillio a brwsio dannedd heb drydan. Dyma beth sy’n gweithio i mi.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s