Cynhadledd Plaid Cymru

Delwedd

Bues i yn Aberhonddu wythnos diwethaf ar gyfer cynhadledd y Blaid. Cynhaliwyd yn gynhadledd yn Theatr Brycheiniog, lleoliad gwych ar gyfer cynhadledd. Rhaid cyfaddef, er fy mod i wedi ymweld ag Aberhonddu sawl gwaith dros y blynyddoedd (yn fanna roedd y pwll nofio agosaf pan o’n i’n ifanc) dwi erioed wedi gweld y theatr na’r gamlas chwaith!

Ta beth, roedd ‘na teimlad cyffroes o fod mewn cynhadledd gydag arweinydd newydd. Mae rhai wedi son am rhyw ddiffyg brwdfrydedd yn y neuadd ond nid hynny oedd fy argraff i – fe glywais i sylwadau positif o’r gynulleidfa o’m cwmpas. Mae’n wir bod y gynhadledd yn llai o ran maint ond dyna beth fyddech chi’n disgwyl mewn blwyddyn heb etholiad mawr.

Yn bersonol roeddwn i’n falch iawn i glywed Leanne yn canolbwyntio ar yr economi werdd a chynaliadwyedd. Yn ogystal a’r potensial enfawr i Gymru mae dyletwydd moesol arnom i chwarae ein rhan ni i ostwng allyriadau carbon ac ati. Yn wir mae cyfle enfawr i ni arwain yn y maes yma a chymryd mantais o’r chwyldro byd-eang mewn technoleg gwyrdd.

Advertisements

Ynghylch Richard Nosworthy

Gic, Cenedlaetholwr, Sosialydd
Cafod y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized a'i dagio yn . Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

2 Ymateb i Cynhadledd Plaid Cymru

  1. Dywedodd Twm :

    Ond beth fydd yr ymateb i’r polisi, economi werdd in ardaloedd fel Powys (ynwedig Faesyfed a Faldwyn) ac yn pwysicach o safle ethorol i Plaid, yn Ceredigion?

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s