SMS am byth

Ydy dyddiau SMS yn dod i ben?

Yn gynyddol mae ffrindiau a theulu yn defnyddio dulliau eraill i gyfathrebu, mewn sefyllfaoedd pan fyddai neges destun yn gwneud y tro falle 5 mlynedd yn ol.

Y prif rheswm am hynny – defnyddio ebost, Twitter, neu wasanaethau fel Whatsapp – yw’r cynnydd mewn ffonau clyfar gyda’u cysylltiadau data. Ar ben hynny, maen nhw’n cynnig gwasanaethau mwy hyblyg, a gall y cost fod yn is.

Dwi’n defnyddio SMS ers 1998 – 14 mlynedd. Dwi dal yn teimlo bod SMS yn dechnoleg ardderchog. Mae’n rhad. Mae’n gyflym. Mae’n amymwthiol.

Os nad oes fawr o batri ar ol, dim ond signal gwan sy ar gael, neu dych chi moyn anfon neges dros ffiniau heb wario ffortiwn, SMS yw’r ateb.

Y dyddiau ‘ma, rwy’n defnyddio Twitter trwy SMS yn ystod y dydd. Mae bywyd batri’r ffon yn para’n cymaint hirach os nad ydych yn galluogi cysylltiad data eich ffon ac mae opsiynau ar Twitter i ddewis pa negeseuon sy’n cael eu hanfon fel SMS, hyd yn oed am ba amser.

Yn anffodus, dydy Google SMS ddim ar gael yng ngwledydd Prydain bellach ond mewn gwledydd eraill mae’n bosibl defnyddio sawl gwasanaeth e.e. Blogger, chwilio’r we, Gmail trwy SMS.

Mae If This Then That yn cynnig opsiynau i gysylltu pob math o wasanaeth rhyngrwydd i’ch ffon trwy SMS hefyd.

Dych chi dal yn defnyddio SMS, ac os felly, sut?

Advertisements

Ynghylch Richard Nosworthy

Gic, Cenedlaetholwr, Sosialydd
Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i SMS am byth

  1. Dywedodd Rhys Wynne :

    Diolch am y tip Twitter SMS, mi rof dro arni.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s