Y dewis gorau: dewis dy hun

Ddwywaith o fewn y mis diwethaf dwi wedi cael sgwrs ‘da rhywun sy’n mynd fel hyn.

“Dwi eisiau pleidleisio x ond fyddan nhw byth yn ennill.”

Neu rhywbeth tebyg.

Canlyniad o’n system pleidleisio ofnadwy yw hyn, i raddau. Yn ogystal â rhai o’r pleidiau sy’n trio codi ofn ar bobl, ac annog pleidleisio tactegol.

Blynyddoedd yn ôl, fe wnes i hynny – pleidleisio tactegol.

Wedyn, penderfynais i newid. A dyma’r prif ddadl yn ei herbyn, yn fy marn i.

Os nad ydyn ni’n cefnogi pwy rydyn ni moyn, chawn ni byth y canlyniad rydyn ni moyn.

Cefnogwch pwy ti MOYN i ennill ym mis Mai.

Fel mae’r SNP yn profi, un dydd, bydd pethau yn newid.

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | Rho sylw

Adolygiad: Gloucester Services, yr M5

2015-04-04 14.04.08

Nage gwasanaethau cyffredin yw rhain…

Dim fruit machines, Burger King na WH Smith chwaith. Os dych chi’n disgwyl, neu eisiau, y pethau hynny, mae Gloucester Services yn ddewis gwael.

Ar y llaw arall, os dych chi moyn bwyd lleol wedi’i baratoi’n ffres, siop fferm sy’n gwerthu caws Single Gloucester, olew olewydd a sudd afal organig…dych chi wedi stopio yn y lle iawn.

2015-04-04 13.47.05

Rhaid cyfaddef rhywbeth fan hyn. Doeddwn i a’r teulu ddim ar y ffordd i unrhywle pan alwon ni mewn. Taith arbennig oedd e. Ie, taith arbennig i wasanaethau traffordd. Roedd fy ngwraig wedi darganfod y lle ar daith i’r midlands ac roedd hi mor frwdfrydig, wel, roedd rhaid i fi ffeindo mas am beth roedd yr holl ffys.

Cinio. Brechdan New York Deli a'r 'sbeshal' - samwn gyda dewis o 3 salad.

Cinio. Brechdan New York Deli a’r ‘sbeshal’ – samwn gyda dewis o 3 salad.

Cawson ni ginio cynnar (yn ol bob son, mae’n werth galw mewn am frecwast hefyd – mae bubble yn squeak ar gael) am tua 12:00. Roedd y dewisiadau poeth yn edrych yn wych ond dwi’n credu bod nhw’n well os dych chi’n bwyta cig. Dwi ddim.

Ces i samwn gyda salads: tatws melys, nwdls/llysiau a ffa. Brechdan New York Deli gafodd fy ngwraig. Wedyn coffi a chacennau. Doedd hi ddim yn rhad ond sai’n credu bod y lle yn fwy costus na gwasanaethau traffordd arferol ond mae’r safon yn llawer uwch. Os dych chi’n gyfarwydd ‘da chaffi Chapter yn Nghaerdydd – mae’r bwyd yma yn eitha’ tebyg ond efallai gyda mwy o ddewis ‘traddodiadol’ a phrydau Seisnig. Awyrgylch eitha tebyg hefyd – ond meddyliwch fwy am Boden Catalogue yn hytrach na lle ‘trendy’.

2015-04-04 13.47.20

Ar ol cinio aethon ni’r siop. Rhywle unigryw, efallai, gan bod atlas ffordd neu Snickers ar gael yn ogystal a selsig fferm, smoked salmon lleol a siocledi posh.

Mae’r adeilad a’r gerddi yn hyfryd – ac hyd yn oed to glaswellt ar yr orsaf petrol!

Os dych chi’n mynd y ffordd yno, neu rhywle cyfagos, byddwn i’n argymell gwneud stop. Gadawais i’n meddwl: pam nad oes mwy o lefydd fel hyn? Byddai mor wych pe tasai lle tebyg yng Nghymru i hybu ein cynnyrch lleol.

Gwefan swyddogol Gloucester Services

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | Rho sylw

Y Gymraeg yng Nghaeau Llandaf – rhan 2

Mewn blogiad llynedd, dechreuais esbonio ychydig am gwrs Canfod Hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd. Fe wnes i son hefyd am ardal Caeau Llandaf.

Map Pontcanna 1886

Map – rhan o gaeau Llandaf tua 1886.

1891 oedd y flwyddyn gyntaf pan ofynodd y cyfrifiad cwestiwn am iaith y person.

Fell y beth oedd y sefyllfa ieithyddol yn y flwyddyn honno?

Yn ol erthyglau fel hyn ar Papurau Newydd Cymru Ar-Lein, Mr Lewis Watkins oedd tenant ‘Court Farm’. Roedd y fferm honno yng nghanol y parc presennol (Gallwch weld map ardderchog sy’n cyfuno un hanesyddol ac un modern yma).

Evening Express Thomas Watkins Court Farm 23 Medi 1898

Trwy chwilio cofnodion cyfrifiad 1891, dydy’r ffurflen ddim yn glir parthed iaith Mr Watkins a’i wraig, Margaret. Ond (diolch i Dylan Foster Evans am ei gyngor) rydyn ni’n gwybod (oherwydd cyfrifiadau 1901/1911) bod y ddau yn siarad Cymraeg. Mae cyfrifiad hefyd yn awgrymu bod o leiaf 2 allan o’r 3 person arall oedd yn byw gyda nhw yn medru’r Gymraeg. Cartref Cymraeg oedd hi, felly. Mae’n werth cofio, serch hynny, nad oedd y bobl yma wedi cael eu geni yn y ddinas. O Aberdâr ddaeth Mr Watkins, a’i wraig o’r Bontfaen.

Felly roedd pobl o’r ardal cyfagos, Cymry Cymraeg, yn byw yn ardal caeau Pontcanna yn 1891.

Ond ydy hyn yn adlewyrchu teuluoedd gyda’u gwreiddiau yn y ddinas eu hun?

Mewn fferm drws nesaf, fferm Pontcanna, mae enghraifft arall sy’n awgrymu taw iaith pobl o tu fas i’r ddinas oedd y Gymraeg erbyn hynny.

Cllr WM Lewis fferm Pontcanna

Ganwyd Mr William Lewis yn fferm Pontcanna yn 1832, lle buodd e tan 1879, pan symudodd e i Castle Street er mwyn parahau â’i fusnes hadau.

Yn ôl cyfrifiad 1881 roedd e’n byw yn 15 Angel Street gyda’i wraig Fanny, meibion William (10 oed) a John (9) a merch (o’r enw Fanny hefyd – 4 oed).

Erbyn 1891, roedd y teulu wedi symud i 18 Heol y Bontfaen, ac i gyd yn uniaith Saesneg yn ol y cyfrifiad. Os gallwn ni ddibynnu ar y cyfrifiad, wrth gwrs!

Byddai’n ddiddorol i ddarganfod mwy am y teulu a’r iaith. Rwy’n sicr bod y Gymraeg yn rhan o hanes y teulu. Oedd tad William Lewis yn siarad Cymraeg efallai?

O’r ciplun bach yma, a’r tystiolaeth arall, mae’n taro fi bod y Gymraeg yn gref yn ardal Caerdydd yn 19eg canrif, ond nid efallai ymysg teuluoedd y ddinas ei hun.

Gyda phobl o’r cymoedd, Bro Morgannwg ac hyd yn oed Sir Trefynwy yn siarad cymaint o Gymraeg, a symud i’r ddinas i chwilio am waith, rwy’n siwr bod y Gymraeg i’w chlywed yn aml ar strydoedd Treganna a Phontcanna yn 1891. I ba raddau roedd teuluoedd gyda’u gwreiddiau yn y filltir sgwâr yma yn ei deall, tybed?

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | Rho sylw

Taith Archifau Morgannwg

Ddydd Sadwrn ges i’r fraint i ymuno â thaith o Archifau Morgannwg.

Fe drefnwyd y daith fel rhan o’r cwrs Canfod Hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd gan Menter Caerdydd a Dylan Foster Evans.

Storfa yn Archifdy Morgannwg.

Storfa yn Archifdy Morgannwg.

Cawson ni ein tywys ‘tu ôl y llenni’. Cyfle i weld y storfeydd a gedwir yr un tymheredd trwy’r flwyddyn er mwyn gwarchod y dogfennau.

Roedd pob math o ystafelloedd eraill gyda teclynnau a pheirianau i lanhau, categoreiddio a storio hen ddogfennau.

Mae’r adeilad yn weddol newydd a leolir yn agos i Stadiwm Dinas Caerdydd ger Heol Sloper (trowch ar bwys HSS Tool Hire – mae arwydd brown fanna).

Edrychon ni hefyd ar y cyfleusterau cyhoeddus ble gall unrhyw un cofrestru a galw mewn i ymchwilio’r archifdy.

Diolch i Rhian Phillips o’r Archifau am drefnu’r taith. Roedd hi wedi dod o hyd i sawl dogfen o ddiddordeb i’r grwp. Roedd hyn yn cynnwys hen fapiau o Gaerdydd o’r 1800au, posteri theatr Cymraeg o’r 1800au a chofnodion y capel ar Heol Llandaf

Edrych ar fapiau.

Edrych ar fapiau.

Mae’r dogfennau’n fregus ac mae’n anhygoel mewn ffordd bod y cyhoedd yn cael cyffwrdd â nhw!

Mae’r mapiau yn dangos twf aruthrol ein dinas dros y ddwy ganrif ddiwethaf.

Fy hoff beth oedd hen fap o Dreganna, neu ‘Canton Farm’ fel oedd hi. Er bod y mapiau’n defnyddio’r Saesneg fel iaith swyddogol, mae’n amlwg iawn ta Cymraeg oedd iaith yr ardal. Roedd disgrifiadau’r caeau yn Gymraeg. Er enghraifft mae’n dweud bod cae ble lleolir Tesco Metro Canton yn ‘ddwy [erw?] a hanner’.

Rwy’n hoff iawn o’r ffaith bod patrymau stryd wedi aros dros ddwy ganrif (edrychwch ar Delta Street, er enghraifft).

2014-11-08 11.28.52

Map o ‘Canton Farm’ – Treganna, Caerdydd tua 1812.

Diolch i Dylan, Rhian a phawb arall am fore diddorol. Bydda i nôl i wneud gwaith ymchwil pan gaf i’r cyfle.

Archifau Morgannwg, Clos Parc Morgannwg, Caerdydd,

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | Rho sylw

Y Gymraeg yng Nghaeau Llandaf – Hanes Cymraeg Caerdydd

Mae agweddau tuag at y Gymraeg yng Nghaerdydd yn dechrau newid.

Yn ol rhai, dinas ‘Saesneg’ yw hi rhywsut, yn wahanol i weddill Cymru. Ac er ei bod hi’n wir bod y Saesneg yn iaith fyw yma ers canrifoedd, mae hi’n bodoli ochr-yn-ochr a’r Gymraeg (a sawl iaith arall wrth gwrs) erioed.

5270878187_453c662e74_bRydw i wedi ymuno a chwrs Dylan Foster Evans ‘Canfod Hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd‘ a redir gan Menter Caerdydd. Diolch yn rhannol i Dr Evans, mae’r darlun yn dod yn gliriach.

Yr argraff sy gyda fi bellach yw hen ddinas amlieithog. Y Saesneg yn gryfiach yng nghanol yr hen ddinas na’r rhan fwyaf o Gymru. Pentrefi Cymraeg o’i chwmpas sy wedi troi’n faestrefi wrth i’r ddinas tyfu. Llandaf. Y Tyllgoed. Y Rhath.

Fyddai ddim yn amlinelli mwy o’r cwrs yma gan bod Dylan wedi gwneud jobyn anhygoel o dda ar ei flog ei hun.

Ond rydw i wedi bod yn gwneud prosiect bach ar un ardal fach – ardal caeau Llandaf. Ardal sydd bellach yn cynnwys parc a meysydd chwarae y dyddiau hyn. Hefyd gydag heol fawr erchyll Rhodfa’r Gorllewin yn creu wal o gongrit a swn rhwng dinasoedd Caerdydd a Llandaf.

Map caeau Llandaf 1886

Mae’r ardal wedi newid yn sylweddol. Yn y 19eg canrif roedd ffermydd a melin yma. Roedd Llandaf yn dinas/pentref ar wahan.

O’r dosbarth roeddwn i’n ymwybodol o’r shifft ieithyddol mawr a ddigwyddodd yng Nghaerdydd yn ystod y ganrif honno. Mae enghreifftiau eraill yn dangos nad oedd teuluoedd Cymraeg yr ardal yn pasio’r iaith ymlaen i’w plant tua diwedd y ganrif.

Edrychais i ar dudalen o gyfrifiad 1861.

Mae 3 lleoliad ar y dudalen:

  • Pont Canna
  • ‘Tucking Mill’
  • Melin Llandaf ‘Llandaff Mill’

Mae fferm Pont Canna i’w gweld yn glir ar y map uchod. Roedd hi wedi troi’n ganolfan deledu TWW/HTV cyn iddi cael ei dymchwel.

Cafodd Melin Llandaf ei dymchwel hefyd, oherwydd adeiladu Rhodfa’r Gorllewin yn y 30au.

Beth am y Tucking Mill felly?

Yn ol yr erthygl yma, yr ‘House of Mercy’ oedd hwnnw, adeilad a oedd wedi newid ei bwrpas erbyn i’r map gael ei greu. Ac allan o’r tri adeilad, hwnnw yw’r unig un sy’n sefyll heddiw fel ty preifat.

O ran y Gymraeg, mae’r darlun yn un cymysg. Mwy i ddilyn yn y blog nesaf…

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | 1 Sylw

Adolygiad – Street Food Cardiff, Y Depo, Heol Dumballs

Felly mae’r trend ‘bwyd stryd’ wedi cyrraedd Caerdydd.

Mae’n wir i ddweud nad rhywbeth hollol newydd yw e. Fe cynhaliwyd nifer o wyliau bwyd yn y ddinas o’r blaen.

Ond digwyddiad llawer mwy yw hwn – gyda tua dwsin (neu fwy?) o stondinau mewn ‘depo’/warws rhwng yr Orsaf Ganolog a’r Bae.

2014-10-31 20.00.07

Mae’n deg i ddweud bod pwyslais ar gig. Cwn Poeth, Byrgyrs, Cyw Iar. Ond roedd digon i apelio ataf i, rhywun sydd (am resymau na fyddai’n esbonio fan hyn) yn bwyta llysiau, pysgod ond dim anifeiliaid eraill,

Dechreuais i gyda burrito llysieuol. Rwy’n hoff iawn o fwyd Mecsican er nad oes llawer o lefydd i’w gael eto yn y ddinas.

Fe costiodd tua £6 am un mawr – llawn chilli ffa, guacamole a chaws. Roedd y maint yn fwy na ddigon i fi ac yn ddigon sbeislyd heb fod dros ben llestri.

2014-10-31 20.00.21Rhannais i ‘spicy slaw’ gyda ffrind, oedd yn grensiog a ffres – ond ddim yn sbeislyd o gwbl!

I ddilyn ges i creme brulee o stondin sy’n arbenigo ynddynt.

Rhaid cyfaddef nad ydw i’n hoff iawn o’r pwdin hyn fel arfer ond roedd yr un yma mor flasus mae’n rhaid i fi ail feddwl o ddifrif! Es i ag un adre i Mrs N hefyd.

Ar y cyfan – menter newydd cyffroes sy’n werth ymweld ag e.

Gwefan Street Food Cardiff

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | Rho sylw

Beth sy ar y bocs? Rhaglenni o Loegr.

Remote Control, Television - TV-controller

[Llun Creative Commons gan espensorvik ar Flickr – linc]

Weithiau mae’n hawdd derbyn pethau heb gwestiynu.

Un o’r pethau hynny yw’r hyn sy’n digwydd pan rydyn ni’n troi’r radio neu teledu ymlaen.

Ar fy radio, mae 33 gorsaf DAB. Dim ond 7 ohonyn nhw sy’n Gymreig/lleol.

Ond yn fwy anhygoel yw’r ffaith bod pob un o’r gweddill yn dod o un wlad arall – Lloegr.

Ar ben hynny, yn anffodus mae nifer cynyddol o raglenni ar orsafoedd ‘lleol’ yn rhaglenni canolog ar draws rhwydwaith Prydeinig.

Mae’n batrwm tebyg ar y teledu.

Pan edrychais i yn ddiweddar roedd 65 sianel teledu Freeview ar gael yma yng Nghaerdydd, yn ogystal a sianeli HD a radio.

Allan o’r 65, mae un sianel cenedlaethol (S4c), a 4 sianel (BBC1, BBC2 ac ITV 1/ITV1+1) – gyda lleiafrif bach o raglenni Cymreig.

Eto, mae’r rhan fwyaf yn sianeli o Loegr, a chwpl o eithriadau megis Russia Today ac Al Jazeera.

Ond does dim un sianel Freeview o Ffrainc, Japan neu Brasil. Dim sianel o’r Almaen, Affrica neu Tseina. Does dim hyd yn oed o wledydd eraill sy’n darlledu yn Saesneg megis Canada, Awstralia ac Iwerddon.

Ers hynny mae’r sianel newydd Made In Cardiff wedi dechrau darlledu, sy’n ddatblygiad da.

Ond yr hyn sy gyda ni yw gwlad lle mae’r rhan helaeth o deledu yn dod o’r wlad drws nesaf.

Dydy hyn ddim yn sefyllfa iach.

Wrth gwrs mae’n naturiol bod teledu Seisnig ar gael yng Nghymru. Rydyn ni’n deall Saesneg ac mae’r rhaglennu yn apelio aton ni.

Ond mae’n creu problemau mawr.

Crystal radio enthusiast

By Khalid Mahmood (Own work) [CC-BY-SA-3.0 or GFDL], via Wikimedia Commons

Mae’r diffyg darlledu Cymreig a dominyddiaeth o ran nifer, cyllideb ac amseru ffafriol rhaglenni Saesneg wedi cyfrannu at sefyllfa lle nad yw llawer o’r boblogaeth yn deall ein system gwleidyddol.

Mae Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler, wedi mynegi pryder am ‘Ddiffyg Democratiaeth’.

Yn ogystal â hynny, rydyn ni’n colli cyfle i ddathlu a chreu diwylliant Cymreig cryf, i hybu hyder ein pobl a gweld y lles o ran swyddi.

Rwy’n ofni bod y ffocws ar raglenni o un wlad arall hefyd yn golygu bod pobl Cymru yn colli mas ar gyfleoedd i werthfawrogi diwylliant gweddill y byd.

Ac wrth gwrs dydy hyn ddim yn helpu’r iaith Gymraeg chwaeth.

Beth yw’r ateb felly?

Mae’n rhaid i ni ddatganoli’r strwythurau sy’n rheoli darlledu yng Nghymru, er mwyn gwasanaethu Cymru fel cenedl.

Ateb Cymdeithas yr Iaith yw treth newydd fydd yn ariannu darlledwr newydd.

A chyn hynny, mae pethau eraill allwn ni wneud:

  • Gwnewch ymdrech i wylio, recordio ac hyrwyddo’r rhaglenni/gwasanaethau prif-ffrwd Cymreig gorau
  • Ewch ati i ddarganfod, gwerthfawrogi a chyfrannu at (yn ariannol a thrwy gyfrannu cynnwys) gwasanaethau amgen Cymreig sy’n bodoli – megis Radio Cardiff, Mon FM, Radio Beca, Cymru FM, Daily Wales a Pobl Caerdydd.
  • Anghofiwch am DAB – prynwch radio rhyngrwyd neu hyd yn oed yr hen ‘short wave’ y tro nesaf.
  • Arwyddwch ddeiseb Ymgyrch Newsnight Cymru.
  • Ewch ati i greu cynnwys eich hun! Podlediadau, Fideos bach, neu trwy gyfrannu at wasanaeth hyperleol yn eich ardal. (Mae cyngor da ar Youtube Playbook).

Rwy’n gobeithio bod proffeil cynyddol y sefyllfa hyn a’r technoleg newydd yn arwain at newidiadau sylweddol yn y dyfodol agos.

Os oes gyda chi syniadau eraill, plis rhowch nhw yn y sylwadau isod…

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | Rho sylw