Profi twnel beicio Sustrans newydd ger Caerfaddon

Tywyllwch, cerddoriaeth clasurol, awyr oer ar ddiwrnod twym.

Roedd beicio trwy ddau dwnel beicio newydd ger Caerfaddon yn brofiad anhygoel!

Twnel Combe Down

Mynediad i dwnel beicio hiraf Prydain – mae twnel Combe Down yn 1.6km ei hyd

Roedden ni wedi teithio i Wlad yr Haf ar y tren gyda’r beiciau, yn awyddus i ffeindio mas beth oedd yr holl ffwdan amdano. Yn gynharach y mis yma, roedd Sustrans wedi datgan agoriad swyddodol y Two Tunnels Greenway, sy’n cynnwys twnel beicio hiraf Prydain.

Cyfle sy’n anodd ei anwybyddu!

Fi tu fas i’r twnel

Yn bendant y twneli oedd uchafbwynt y daith – yn enwedig pan dych chi’n beicio i lawr, heb bedlo. Ie, mae’n wir – mae cerddoriaeth yn chwarae yno ac er bod hi’n dywyll, dydy hi ddim yn rhy dywyll. Hawdd iawn yw dychmygu gyrru tren trwyddynt pan oedd y rheilffordd wreiddiol yno.

Ond dim ond rhan bach o lwybr tua 13 milltir ydyn nhw, sy’n mynd a chi o’r ddinas, ar hyd yr afon a lan y bryn ar hyd hen rheilffordd sydd bellach wedi troi’n llwybr beicio.

Twnel a llwybr beicio/cerdded

Chwarae teg, mae hwn yn beicio moethus a newid hyfryd o strydoedd prysur y ddinas. Mae gwyneb y llwybr yn y rhannau newydd trwy’r twneli yn ardderchog.

Ar ol y twneli gallwch troi yn ol tuag at Gaerfaddon ar hyd lonydd tawel y cefn gwlad. Yn ffodus iawn ar ddiwrnod mor dwym mae hefyd tafarn bach handi ym mhentre Monkton Combe.

Tafarn – diod oer a checio’r map

Wedyn teithion ni ar hyd lonydd tawel i ailymuno a llwybr beic arall yn ol i’r ddinas, ar hyd glannau’r gamlas.

Mae'r llwybr yn dilyn y gamlas yn ol i Gaerfaddon.

Mae’r llwybr yn dilyn y gamlas yn ol i Gaerfaddon.

Byddwn i’n argymell y llwybr hon i bawb sy’n hoffi beicio, yn enwedig pobl sy’n byw yn Ne-Dwyrain Cymru. Mae’n eitha hawdd i’w chyrraedd ar y tren, er nad oes llawer iawn o le am feiciau ar y trenau felly triwch osgoi amseroedd prysur. Un rhybudd arall hefyd – roedd hi’n eitha anodd i ffeindio’r ffordd o’r llwybr ar hyd yr afon yng Nghaerfaddon i’r llwybr beicio newydd a’r twneli. Roedden ni’n lwcus bod beicwyr lleol mor gyfeillgar a barod i’n helpu!

Gallwch chi lawrlwytho map o wefan Sustrans.

Delwedd | Posted on gan | Tagiwyd | 3 Sylw

Rhosyn ar Wy

Rhosyn ar Wy

Ie, yn Lloegr mae’r siop yma.

Ie rhan bach o Gymru dros y ffin, falle. Aethon ni ar daith bach i’r Rhosan ar Wy ddoe.

Rat

Mae hi’n dref beryglus, mae’n debyg.

Os wyt ti yn yr ardal, gwna’n siwr i alw mewn i Bailey’s Home Store hefyd. Siop fawr sy’n gwerthu pob math o eitemau ffasiynol, llawer ohonynt yn vintage neu wedi’u ailgylchu.

 

Delwedd | Posted on gan | 2 Sylw

Haid o adar / ‘murmuration’ ar bwys Stadiwm y Mileniwm

Roedd hi’n hudolus i’w gweld.

Ar y ffordd adre o’r gwaith roedd rhaid i fi disgyn oddi ar fy meic er mwyn tynnu fideo o’r adar hyn – haid enfawr yn amgylchynu bragdy Brains a Stadiwm y Mileniwm.

Dwi wedi clywed am bethau tebyg yn Aberystwyth ond mae rhywbeth anhygoel am weld gwyrth natur yng nghanol y brifddinas!

Gadewch sylwadau os wyt ti wedi gweld pethau tebyg rhywle arall.

Fideo | Posted on gan | Tagiwyd | 5 Sylw

HMV a’r dyfodol

HMV gan jaimelondonboy - Trwydded Creative Commons: http://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/2.0/deed.en_GB
HMV, a photo by jaimelondonboy on Flickr.

Roedd y newyddion bod y siop recordiau (ai dyna beth dyn ni i fod i alw siop fel HMV y dyddiau hyn?) HMV wedi galw mewn y gweinyddwyr yn drist, er nad oedd yn hollol annisgwyl.

Yn bersonol rwy’n teimlo’n drist am sawl rheswm. Mae nostalgia yn elfen pwysig. Fel rhywun gafodd ei fagu mewn tref fach, milltiroedd o’r ‘siopau mawr’ fel HMV, yn ystod fy mhlentyndod/arddegau roedd ymweliad i HMV yn rhywbeth egsotig a chyffroes. Rwy’n cofio ymweld a’r siop yn Heol y Frenhines, Caerdydd a hyd yn oed y siop enfawr ar Oxford Street yn Llundain yn ystod gwyliau gyda’r teulu yn y 90au cynnar. Roedd yr ymweliadau hynny wrth gwrs yn hollol gwahanol i unrhywbeth heddiw, dim ond 20 mlynedd yn ddiweddarach. Y gwahaniaeth mwyaf efallai oedd y ffaith bod cyfle i ddod o hyd i gerddoriaeth nad oedd ar gael yn rhywle arall. Heb Amazon, iTunes, Spotify ac ati, o’r diwedd roeddwn i’n cael cyfle i weld a phrynu’r holl draciau roeddwn i wedi clywed ar y radio.

I fi, roedd ymweld a HMV yn achlysur arbennig.

Ond mae rhesymau eraill am fy nhristwch. Y dyddiau hyn, mae llwyth o lefydd eraill – cystadleuwyr HMV – wedi diflannu. Prin iawn yw’r llefydd eraill sy’n gwerthu detholiad da o DVDs, er enghraifft.

A dyma’r eironi, hefyd. Ers blynyddoedd mae’r siop recordiau annibynnol ardderchog ac hanesyddol, Spillers, wedi gwynebu problemau. Fe benderfynais i sawl blwyddyn yn ol y byddwn i’n trio fy ngorau glas i brynu cerddoriaeth o Spillers er mwyn cefnogi siop mor werthfawr, unigryw a phwysig i ddiwylliant y ddinas.

Hyd y gwn i, mae’r siop bellach yn ffynnu yn ei lleoliad newydd. Cwpl o wythnosau’n ol fe alwais i mewn i Spillers i brynu feinyl newydd gan Public Service Broadcasting a Cornershop.

Fel arfer, dydw i ddim yn mynd i HMV, ond fel mae’n digwydd fe nes i hynny Dydd Sadwrn diwethaf. Sut profiad roedd hynny? Wel, ers tro rwy’n teimlo bod HMV wedi colli ei ffordd. Ers peth amser, dyfeisiau electronig megis tabledi, chwaraewyr MP3 a chlustffonau sy’n cymryd llawer o’r lawr llawr. Roedd ‘da fi teimlad nad oedd y siop yn dangos llawer o gariad a pharch at ei stoc. Sut allai esbonio hyn? Wel, os ewch chi Waterstones, llyfrau sy’n ganolog i’r profiad o hyd ac mae ambell i lyfyr gyda disgrifiad bach wedi’i ysgrifennu gan y staff. Yn Spillers, mae rhestrau dros y waliau i gyd sy’n dangos ffefrynnau’r staff. Dydy HMV ddim yn teimlo fel ‘na.

Wedi dweud ‘ny, mae dal rhwybeth am HMV sy’n arbennig. Mae’n cynnig rhywbeth gwahanol i’r hyn mae siopau fel Spillers yn gwneud ac mae amrywiaeth yn bwysig. Mae maint y siop yn dda, mae bargeinion i gael, y staff yn dda a does dim byd fel treulio amser ar goll mewn siop a darganfod pethau roeddech chi wedi anghofio amdanyn nhw.

Felly, beth am y dyfodol?

Rwy’n credu bod ‘na dal rol allai HMV ei chwarae, os mae’r siopau yn goroesi.

Mae’r technoleg yn newid, ac weithiau mae hynny’n beth da. Nid ydw i am symud yn ol mewn amser.

Wrth gwrs, weithiau dwi am islwytho MP3s ond dwi dal i gredu bod gwerth i bethau ffisegol, go iawn. Dydy radio ddim wedi lladd papurau newydd ac mae sinemau dal yno er bod cyfle i wylio DVDs adre.

Dyma beth hoffwn i weld, fel dyfodol i HMV:

1. Miwsig a ffilm wrth galon y siop. Dangoswch i ni bod ots ‘da chi am ddiwylliant. Mae’r staff yn caru cerddoriaeth a rhannu eu gwybodaeth.

2. Awyrgylch plesurus sy’n apelio at bobl sydd am dreulio cwpl o oriau yn y siop. Cyfleoedd cyfforddus i wrando ar stwff newydd. Llefydd i eistedd, hyd yn oedd. Diodydd!

3. Technoleg newydd yn y cyd-testun addas. Dylai fod wi-fi ar gael a phethau fel clustffonau ac iPods, ond os dwi am brynu Nexus 7 neu laptop, byddai’n mynd i John Lewis. Dwi ddim eisiau iddyn nhw dominyddu canol y siop.

4. Syniadau ac ysbrydoliaeth.

5. Sesiynau byw, lansiadau ac ati.

6. Islwythiadau hmv.com a phrofiad ar-lein sy’n integreiddio gyda’r siop.

Yn bersonol byddai’n prynu rhan fwyaf o fy ngherddoriaeth o Spillers, ond os dwi eisiau DVD neu rhywbeth mwy canol-y-ffordd (e.e. Fine Young Cannibals) gobeithio bydd HMV dal yno fel opsiwn amgen.

Via Flickr:
Date taken: Friday 11th November 2005

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | Tagiwyd | Rhowch sylw

Adolygiad – Gwyl Bwyd Stryd, Y Rhath, 15 Rhagfyr 2012

Mae cwpl o wythnosau wedi mynd heibio ers yr Wyl ond gan fod amser rhydd ‘da fi dros y wyliau dyma fi’n meddwl efallai hoffech chi glywed amdani os na chawsoch i gyfle i fynd.

Hon oedd yr ail Wyl o’r fath i gael ei chynnal ym maes parcio’r Mackintosh Institute. Yn ol y son, roedd yr un gyntaf yn hynod o boblogaidd felly penderfynon ni fynd yn weddol gynnar, tua 7, er mwyn gwneud yn siwr bod digon o fwyd ar ol!

image

Gwyl bwyd stryd yn y Mackintosh Institute, Y Rhath, 15 Rhagfyr 2012

Roedd y tywydd yn wlyb, efallai un rheswm nad oedd llawer o bobl yno wrth i ni gyrraedd. Tua dwsin o werthwyr oedd yn bresennol, cymysgiado enwau adnabyddus o’r sîn bwyd lleol ac enwau newydd i fi.

Dyma’r bois o ThaiDee oedd yn gwerthu cawl sbeislyd gyda tofu, cyw iar a coriandr.

image

Gwion a Stephen ar stondin ThaiDee

A dyma’r cawl!

image

Bwytais i daal a reis o stondin Chai Street (tair punt – bargen) ac wedyn i bwdin ces i crêpe siocled a banana, oedd hefyd yn £3.

Roedd mwy o ddewis i’r rhai ohonoch chi sy’n bwyta cig, ond ychydig o stondinau llysieuol neu’n cynnig rhywbeth llysieuol.

image

Yr unig broblem oedd diffyg llefydd addas i eistedd gyda’ch bwyd yn y glaw. Roeddech chi’n cael mynd mewn i’r adeilad ond roedd rhaid i chi wrando ar y band. Tu allan roedd ychydig o gadeiriau o gwmpas tân ond dim byd i atal y glaw.

Gobeithio bydd mwy o wyliau fel hyn yn y dyfodol, ffordd wych i hybu diwylliant bwyd y brifddinas sydd i’w weld fel un sy’n dechrau ffynnu gyda mentrau newydd diddorol.

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | Tagiwyd | Rhowch sylw

Bethyg e-lyfr o lyfrgell ar y Nexus 7

Dwi ‘di bod yn eitha drwgdybus o e-lyfrau. Er fy mod yn cyfrif fy hun fel gîc, dwi hefyd yn gwerthfawrogi llyfrau traddodiadol fel rhywbeth all gael ei fenthyg i ffrind ac dwi moyn gweld siopau llyfrau bywiog ar y stryd fawr, nid pobl yn eu cartrefi yn anfon eu harian yn syth i gwmni mawr.

Ond yn ddiweddar fe roddwyd i fi tabled Nexus 7 a gwelais hysbyseb am e-lyfrau Llyfrgelloedd Cymru.

Felly sut mae hyn yn gweithio? Dyma beth dych chi angen wneud:

1. Mewnosod meddalwedd Aldiko ar eich tabled.

2. O fewn Aldiko mae opsiwn i alluogi’r dyfais – mae’n rhaid i chi wneud hyn gan bod yr elyfrau yn defnyddio DRM Adobe

3. Ewch i’r wefan Elyfrau i Gymru a logio mewn gyda’r manylion ar eich cerdyn llyfrgell arferol

4. Dewiswch lyfr.

5. Bydd opsiwn i lawrlwytho’n uniongyrchol i’r tabled
image

6. Agorwch Aldiko. Bydd opsiwn i agor ffeil. Byddwch yn dod o hyd i’r linc yn y ffolder ‘downloads’

7. Agorwch y linc. Dyma lle aeth e o’i le i fi. Ond ar ol trio sawl gwaith, fe lwyddais i.

Felly 5/10 yw’r sgor ar y foment. Roedd y cam olaf bron yn ddigon i fi beidio â defnyddio’r system byth eto. Os bydd llyfrgelloedd Cymru yn gwneud pethau’n rhwyddach, bydd hi’n llwyddo. Y peth trist yw bod hyn mor anodd pan mae cymaint o botensial, yn enwedig i bobl hyn sy’n byw yn bell o’r llyfrgell.

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | Tagiwyd | 1 Sylw

Adolygiad – Satay Hut

Roedd yr wraig mas Nos Wener a gan fy mod i wedi gorffen gweddillion y bwyd yn yr oergell penderfynais i fynd am tec-awe. Nawr mae detholiad eang o lefydd i gael bwyd yn Nhreganna a digon hawdd i golli ambell i le os nad ydych chi’n talu sylw i’r llefydd newydd sy’n agor.

Felly yn Satay Hut, Wyndham Crescent y prynais fy swper Nos Wener. Wrth gyrraedd doedd dim cwsmeriaid eraill yn y lle, sy’n fach, jyst digon o le i ychydig o bobl sefyll o flaen y cownter a chwpl o fyrddau os wyt ti am eistedd.

Mae’r ddau foi sy’n gweithio yno, sy’n dod o wahanol lefydd yn Malaysia, yn gyfeillgar iawn ac roedden nhw’n awyddus i esbonio uchafbwyntiau eu gwlad. Felly gadawais i nid gyda fy mwyd yn unig, ond gyda brochures twristiaeth a oedd adran twristiaeth llywodraeth Malaysia wedi anfon atyn nhw i’w helpu a’u swyddi ychwanegol i hybu’r wlad i Gymry.

O ran y bwyd ei hun, mae’r fwydlen yn fyr, sy’n beth da yn fy marn i (dwi ddim yn disgwyl llawer mewn llefydd gyda bwydlen hir, neu hyd yn oed mwy nac un fwydlen).

Mae’r fwydlen yn cynnwys prydiau nwdls, reis, cig satay a rendang – math o gyri sych.

Nes i ddewis nasi goreng (reis gyda llysiau ac wy) a vegetarian rendang. Tua £5 am bopeth – felly yn wahanol i rai o’i gystadleuwyr mae’n gyfleus i bobl ar eu pennau eu hunain sy eisiau archebu pryd o fwyd llawn gyda amrywiaeth o bethau heb brynu digon i 2.

Bwyd o Satay Hut yn Nhreganna

Bwyd o Satay Hut yn Nhreganna

Roedd blas tebyg i fwyd Thai arno fe, nes i joio. Yn bendant byddai’n mynd nol i brofi’r nwdls a’r pwdinau e.e. Lemongrass & kafir lime cake.

Satay Hut, 2 Wyndham Crescent, Treganna CF11 9EH. Ar gau Nos Sul a Dydd Llun. Ar agor 6-9yh Dydd Mawrth – Dydd Sadwrn & 12-3yh D. Sadwrn & D. Sul.

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | 2 Sylw